We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Cookie policy.
Cookie settings.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.
Trefniadau Gweithdrefnol Cymeradwyo ac Ailgymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy yng Nghymru.
Sicrhewch eich bod wedi darllen yn llawn, Dogfen Ganllaw Llywodraeth Cymru Cymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy (Cymru) 2018.
1. Cyflwyniad
1.1 Cyflwynodd y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd yn 2007) rolau newydd Clinigydd Cymeradwy a Chlinigydd Cyfrifol, y gellir eu llenwi gan ystod o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
1.2 Mae Clinigydd Cymeradwy yn weithiwr iechyd proffesiynol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i weithredu fel y cyfryw at ddibenion Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae rhai penderfyniadau dan Ddeddf 1983, na all ond unigolion sy’n glinigydd cymeradwy eu gwneud.
Dim ond pobl sy'n Glinigwyr Cymeradwy all wneud rhai penderfyniadau o dan Ddeddf 1983.
1.3 Mae Clinigydd Cyfrifol yn Glinigydd Cymeradwy sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros achos claf unigol. Bydd Clinigwyr Cymeradwy a ddyrennir yn Glinigwyr Cyfrifol yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o'r swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Swyddogion Meddygol Cyfrifol.
1.4Ar 3 Tachwedd 2008, daeth Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam yn Gorff Cymeradwyo ar gyfer Clinigwyr Cymeradwy ar ran Byrddau Iechyd Lleol Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymeradwyaeth gychwynnol, ail-gymeradwyo, atal dros dro a therfynu cymeradwyaeth. Ffocws gwaith cychwynnol y Bwrdd Iechyd Lleol oedd cymeradwyo ymarferwyr meddygol cofrestredig a oedd wedi gweithredu’n flaenorol fel Swyddogion Meddygol Cyfrifol (RMO) neu Swyddogion Meddygol Cymunedol Cyfrifol (CRMO) i ddod yn Glinigwyr Cymeradwy o dan y trefniadau trosiannol.
2. Cefndir
2.1 Yn 2013, cyfarfu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â Llywodraeth Cymru i drafod meysydd o fewn y broses gymeradwyo a threfniadau llywodraethu yr oedd y Tîm Cymeradwyo a’r Bwrdd Iechyd yn ystyried y gellid eu gwella. Roedd gwahaniaethau rhwng y prosesau yng Nghymru a Lloegr yn ychwanegu at yr her o gynnal cysondeb yng ngwasanaeth ymarferwyr iechyd meddwl a Byrddau Iechyd yng Nghymru, ac ar sail drawsffiniol â Lloegr.
2.2 Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru Gyfan a oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol Iechyd Meddwl a Gofal Cymdeithasol, rheolwyr gwasanaeth neu statws cyfatebol, a chyrff proffesiynol i adolygu'r meysydd a oedd yn peri pryder. Adroddodd y Grŵp ei ganfyddiadau a gwnaeth argymhellion i Lywodraeth Cymru yn 2015.
2.3 TDatblygwyd y broses ganlynol o ganlyniad i'r adolygiad. Bydd yn dod i rym ar gyfer pob cais a ystyrir o 12 Gorffennaf 2018.
3. Trefniadau ar gyfer Ceisiadau Newydd
Yn ogystal â'r gofynion cymhwysedd a nodir yng Nghyfarwyddiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Clinigwyr Cymeradwy)(Cymru) 2018, mae canllawiau pellach ar ddangosyddion parodrwydd i ymgeisio am gymeradwyaeth i’w gweld yng Nghanllawiau Cymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy (Cymru) Llywodraeth Cymru Gorffennaf 2018.
Rhaid i bob ymgeisydd sicrhau bod y canlynol ar gael i'r Tîm Cymeradwyo (BIPBC):
3.1 Ceisiadau gan feddygon sydd ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC
Ystyrir bod meddygon sydd ar gofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn meddu ar y cymwyseddau sydd eu hangen i ddod yn Glinigwr Cymeradwy, ar yr amod y cefnogir hyn gan:-
1. Ffurflen Gais
Rhaid llenwi'r ffurflen gais yn llawn heb gamgymeriadau.
2. Dau Eirda
Canolwr 1
OMae’n rhaid i un o'r canolwyr fod yn Gyfarwyddwr Meddygol neu Gyfarwyddwr Clinigol cyfredol neu ddiweddaraf, neu gyfwerth, ond lle bo ymgeisydd ar raglen hyfforddi a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, gall y canolwr fod yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi neu'n unigolyn y mae'r corff cymeradwyo yn ei ystyried yn gyfwerth â Chyfarwyddwr Rhaglen (h.y. Goruchwylydd Addysg cyfredol neu ddiweddaraf).
Mae'n rhaid bod Canolwr 1 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn ystod y deuddeg mis blaenorol.
Canolwr 2
Mae'n rhaid i un o'r canolwyr fod yn Glinigwr Cymeradwy, fodd bynnag, os yw'r Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol/Meddygol/Hyfforddiant neu gyfwerth yn Glinigwr Cymeradwy, gellir dewis Canolwr 2 o un o'r categorïau a restrir.
Mae'n rhaid bod Canolwr 2 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yng Nghymru neu Loegr yn ystod y 2 flynedd flaenorol (yn y 12 mis blaenorol os yw'r canolwr a enwebwyd yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP)).
Rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau ar eich dealltwriaeth o'r Ddeddf Iechyd Meddwl a'ch gallu i'w rhoi ar waith.
Mae gan y Tîm Cymeradwyo ffurflenni geirda pro fforma y dylai eich canolwr eu llenwi.
- Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) y mae’r ymgeisydd wedi gweithio gydag ef o fewn y deuddeg mis blaenorol.
- Seiciatrydd Ymgynghorol sydd wedi'i gymeradwyo yn feddyg adran 12(2).
* Mae'n rhaid bod un o'r ddau ganolwr wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn y deuddeng mis cyn dyddiad y cais.
3. Curriculum Vitae
Dylai'r CV ddangos tystiolaeth o weithgarwch a dysgu sy'n ymwneud â chymwyseddau Clinigydd Cymeradwy i arwain a rheoli gofal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Dylai'r CV gael ei ddilysu (ei lofnodi a'i ddyddio) gan y Cyfarwyddwr Meddygol neu'r Cyfarwyddwr Clinigol neu'r Rheolwr Gwasanaeth lle bo'n berthnasol.
- Rhaid cynnwys cyflogaeth bresennol a blaenorol mewn trefn gronolegol gan ddechrau gyda'r gyflogaeth ddiweddaraf
- Dylid cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob swydd yn y fformat dd.mm.yyyy
- Dylai'r CV gynnwys teitl/graddfa'r swydd, enw llawn a chyfeiriad y cyflogwr.
- Rhaid i'r CV ddangos tystiolaeth o weithio ar radd uwch am o leiaf 4 blynedd.
4.Tystiolaeth o ganlyniad boddhaol i'r arfarniad diweddaraf gan gynnwys enw'r arfanwr a dyddiad yr arfarniad
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais.
5. Tystiolaeth gyfredol o ofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno naill ai tystysgrif enw da a gyhoeddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn perthynas â DPP, neu Gofnod DPP Cymru Gyfan neu dystiolaeth o'r arfarniad blynyddol boddhaol mwyaf diweddar sy'n cyfeirio at gyflawni DPP. Os cyflwynir y dystiolaeth arfarnu ddiweddaraf, bydd yn ddigon darparu’r tudalennau hynny sy’n dangos yr wybodaeth ganlynol yn unig:
Enw'r arfarnai, enw'r arfarnwr, dyddiad yr arfarniad, y dyddiad y cytunwyd ar yr arfarniad cryno a thrafodaeth a myfyrdodau ynghylch DPP.
Gellir gwirio'r canllawiau DPP a gyhoeddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion drwy'r ddolen isod.
Cyflwyno eich DPP - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
6. Tystysgrif presenoldeb mewn Cwrs Cynefino deuddydd i Glinigwyr Cymeradwy
Mynychu Hyfforddiant Cynefino i Glinigwyr Cymeradwy yng Nghymru neu un o'r digwyddiadau hyfforddi Clinigwyr Cymeradwy yn Lloegr sydd wedi'i gymeradwyo gan Baneli Cymeradwyo Rhanbarthol Lloegr. Rhaid ymgymryd â’r hyfforddiant o fewn y cyfnod sydd ddwy flynedd yn union o flaen dyddiad y cais. Rhaid i bob tystysgrif fod yn gyfoes pan fydd y cais wedi'i graffu a'i ystyried yn gyflawn a heb gamgymeriadau, gan y Tîm Cymeradwyo, yn barod i'w chyflwyno i'r Panel. Mae’n rhaid i bob tystysgrif barhau i fod yn ddilys pan fo’r Panel yn asesu ceisiadau. DS: Os yw’r ymgeisydd wedi dilyn hyfforddiant yn Lloegr, dylai gysylltu â’r Tîm Cymeradwyo yng Nghymru i gael copi o’r cyflwyniadau hyfforddi ar Fesur Cymru a Chod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru.
Sylwer: Os yw’r ymgeisydd wedi dilyn hyfforddiant yn Lloegr, dylai gysylltu â’r Tîm Cymeradwyo yng Nghymru i gael copi o’r cyflwyniadau hyfforddi ar Fesur Cymru a Chod Ymarfer Cymru MHA.
7. Copi o Dystysgrif Cofrestru Proffesiynol ddilys sy'n bodloni gofynion
Atodlen 1 Cyfarwyddiadau 2018
Seiciatryddion – Tystysgrif GMC
8. Tystysgrif Cofnod Troseddol Manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu
1997.
Mae angen copi o'r dystysgrif Datgeliad a Gwahardd (DBS) ddiweddaraf gan Ymgeiswyr sy'n gweithio drwy Asiantaeth Gyflogaeth Locwm.
Mae'n rhaid i'r dystysgrif DBS gynnwys gwiriadau yn erbyn gwybodaeth Rhestr Waharddedig Plant y DBS a gwybodaeth Rhestr Waharddedig Oedolion y DBS.
9. Cadarnhad a wrthodwyd cais am gymeradwyaeth fel Clinigydd Cymeradwy mewn man arall
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais.
10. Cadarnhad ysgrifenedig gan gyflogwyr yr ymgeisydd y bydd yr ymgeisydd yn cael cyfle i weithio fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru
Dylid gofyn am gadarnhad gan y Cyfarwyddwr Clinigol.
3.2 Ceisiadau gan Feddygon sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant seiciatrig dan oruchwyliaeth a gydnabyddir gan RCPsych.
Gellir rhoi cymeradwyaeth amodol ar gyfer cyfnod o weithredu mewn rôl Clinigydd Cymeradwy i feddygon sydd ym mlwyddyn olaf eu hyfforddiant arbenigol uwch tuag at gael eu cynnwys ar y Gofrestr Arbenigwyr. Bydd tystysgrif cwblhau hyfforddiant yn amod o gymeradwyaeth barhaus.
Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:-
1. Ffurflen Gais
Rhaid llenwi'r ffurflen gais yn llawn heb gamgymeriadau.
2. Dau Eirda
Canolwr 1
Rhaid i un o'r canolwyr fod yn Gyfarwyddwr Meddygol neu Gyfarwyddwr Clinigol cyfredol neu diweddaraf, neu gyfwerth, ond lle bo ymgeisydd ar raglen hyfforddi a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, gall y canolwr fod yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi neu'n unigolyn y mae'r corff cymeradwyo yn ei ystyried yn gyfwerth â Chyfarwyddwr Rhaglen (h.y. Goruchwylydd Addysg cyfredol neu ddiweddaraf).
Mae'n rhaid bod Canolwr 1 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn ystod y deuddeg mis blaenorol.
Canolwr 2
Mae'n rhaid i un o'r canolwyr fod yn Glinigwr Cymeradwy. Fodd bynnag, os yw'r Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol/Meddygol/Hyfforddiant neu gyfwerth yn Glinigwr Cymeradwy, gellir dewis Canolwr 2 o un o'r categorïau a restrir:-
- Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GIMPC) y mae’r ymgeisydd wedi gweithio gydag ef o fewn y deuddeg mis blaenorol.
- Seiciatrydd Ymgynghorol sydd wedi'i gymeradwyo yn feddyg adran 12(2).
Mae'n rhaid bod Canolwr 2 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yng Nghymru neu Loegr yn ystod y 2 flynedd flaenorol (yn y 12 mis blaenorol os yw'r canolwr a enwebwyd yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GIMPC).
Mae'n rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau am eich dealltwriaeth o’r Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) a'ch gallu i’w rhoi ar waith. Mae'n rhaid bod un o'r ddau ganolwr wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn y deuddeng mis cyn dyddiad y cais.
Mae gan y Tîm Cymeradwyo ffurflenni geirda pro fforma y dylai eich canolwr eu llenwi.
3. Curriculum Vitae
- Dylai'r CV gael ei ddilysu (ei lofnodi a'i ddyddio) gan y Cyfarwyddwr Meddygol neu'r Cyfarwyddwr Clinigol neu'r Rheolwr Gwasanaeth lle bo'n berthnasol.
- Dylid cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob swydd yn y fformat dd.mm.yyyy
- Dylai'r CV gynnwys teitl/graddfa'r swydd, enw llawn a chyfeiriad y cyflogwr.
Rhaid i'r CV ddangos tystiolaeth o weithio ar radd uwch am o leiaf 4 blynedd.
4. Tystiolaeth am bryd cynhaliwyd arfarniad a gan bwy er mwyn dangos arfarniad boddhaol
Dylid cyflwyno copi o ganlyniad ARCP boddhaol ar e-bost i'r Tîm Cymeradwyo.
5. Tystysgrif presenoldeb mewn Cwrs Cynefino deuddydd i Glinigwyr Cymeradwy
Mynychu Hyfforddiant Cynefino i Glinigwyr Cymeradwy yng Nghymru neu un o'r digwyddiadau hyfforddi Clinigwyr Cymeradwy yn Lloegr sydd wedi'i gymeradwyo gan Baneli Cymeradwyo Rhanbarthol Lloegr. Rhaid ymgymeryd â’r hyfforddiant o fewn y cyfnod sydd ddwy flynedd yn union o flaen dyddiad y cais. Rhaid i bob tystysgrif fod yn gyfoes pan fydd y cais wedi'i graffu a'i ystyried yn gyflawn a heb gamgymeriadau gan y Tîm Cymeradwyo, yn barod i'w chyflwyno i'r Panel. Mae’n rhaid i bob tystysgrif barhau i fod yn ddilys pan fo’r Panel yn asesu ceisiadau.
6. Copi o Dystysgrif Cofrestru Proffesiynol ddilys sy'n bodloni gofynion Atodlen 1 o Gyfarwyddiadau 2018
Seiciatryddion – Tystysgrif GMC
7. Tystysgrif Cofnod Troseddol Manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997
Mae angen copi o'r dystysgrif Datgeliad a Gwahardd (DBS) ddiweddaraf gan Ymgeiswyr sy'n gweithio drwy Asiantaeth Gyflogaeth Locwm.
Mae'n rhaid i'r dystysgrif DBS gynnwys gwiriadau yn erbyn gwybodaeth Rhestr Waharddedig Plant y DBS a gwybodaeth Rhestr Waharddedig Oedolion y DBS.
8. Cadarnhad a wrthodwyd cais am gymeradwyaeth fel Clinigydd Cymeradwy mewn man arall
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais.
9. Cadarnhad ysgrifenedig gan gyflogwyr yr ymgeisydd bod yr ymgeisydd mewn swydd dros dro ac y bydd yn cael cyfle i weithio fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru
Dylid gofyn am gadarnhad gan y Cyfarwyddwr Clinigol.
10. Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant
Mae'n hanfodol bod y dystysgrif yn cael ei chyflwyno i sicrhau cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy barhaus.
3.3 Ceisiadau gan feddygon nad ydynt ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC a gan weithwyr proffesiynol anfeddygol
Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:-
1. Ffurflen Gais
Rhaid llenwi'r ffurflen gais yn llawn heb gamgymeriadau.
2. Dau Eirda
Canolwr 1
Rhaid i un o'r canolwyr fod yn Gyfarwyddwr Meddygol neu Gyfarwyddwr Clinigol cyfredol neu diweddaraf, neu gyfwerth, ond lle bo ymgeisydd ar raglen hyfforddi a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, gall y canolwr fod yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi neu'n unigolyn y mae'r corff cymeradwyo yn ei ystyried yn gyfwerth â Chyfarwyddwr Rhaglen (h.y. Goruchwylydd Addysg cyfredol neu ddiweddaraf).
Mae'n rhaid bod Canolwr 1 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn ystod y deuddeg mis blaenorol.
Canolwr 2
Mae'n rhaid i un o'r canolwyr fod yn Glinigwr Cymeradwy, fodd bynnag, os yw'r Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol/Meddygol/Hyfforddiant neu gyfwerth yn Glinigwr Cymeradwy, gellir dewis Canolwr 2 o un o'r categorïau a restrir:-
- Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GIMPC) y mae’r ymgeisydd wedi gweithio gydag ef o fewn y deuddeg mis blaenorol.
- Seiciatrydd Ymgynghorol sydd wedi'i gymeradwyo yn feddyg adran 12(2).
Mae'n rhaid bod Canolwr 2 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yng Nghymru neu Loegr yn ystod y 2 flynedd flaenorol (yn y 12 mis blaenorol os yw'r canolwr a enwebwyd yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (WIMPC). Mae'n rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau am eich dealltwriaeth o’r Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) a'ch gallu i’w rhoi ar waith. Mae gan y Tîm Cymeradwyo ffurflenni geirda pro fforma y dylai eich canolwr eu llenwi.
* Mae'n rhaid bod un o'r ddau ganolwr wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn y 12 mis cyn dyddiad y cais.
3. Curriculum Vitae
Dylai'r CV ddangos tystiolaeth o weithgarwch a dysgu sy'n ymwneud â chymwyseddau Clinigydd Cymeradwy i arwain a rheoli gofal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Dylai'r CV gael ei ddilysu (ei lofnodi a'i ddyddio) gan y Cyfarwyddwr Meddygol neu'r Cyfarwyddwr Clinigol neu'r Rheolwr Gwasanaeth lle bo'n berthnasol.
- Rhaid cynnwys cyflogaeth bresennol a blaenorol mewn trefn gronolegol gan ddechrau gyda'r gyflogaeth ddiweddaraf
- Dylid cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob swydd yn y fformat dd.mm.yyyy
- Dylai'r CV gynnwys teitl/graddfa'r swydd, enw llawn a chyfeiriad y cyflogwr.
- Rhaid i'r CV ddangos tystiolaeth o leiafswm o 7 mlynedd WTE mewn Seiciatreg a rhaid i 4 blynedd o'r rheiny fod ar lefel uwch. Ni ellir cynnwys swyddi a barodd lai na 3 mis.
- Ar gyfer ymgeiswyr meddygol yn unig – dylech fod ag o leiaf 12 mis o brofiad yn gweithio fel Meddyg Adran 12(2).
4. Tystiolaeth gyfredol o ofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n seiciatryddion gyflwyno naill ai dystysgrif enw da a gyhoeddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn perthynas â DPP, neu Gofnod DPP Cymru Gyfan neu dystiolaeth o'r arfarniad blynyddol boddhaol mwyaf diweddar sy'n cyfeirio at gyflawni DPP. Os cyflwynir y dystiolaeth arfarnu ddiweddaraf, bydd yn ddigon darparu’r tudalennau hynny sy’n dangos y wybodaeth ganlynol yn unig: Enw'r arfarnai, enw'r arfarnwr, dyddiad yr arfarniad, y dyddiad y cytunwyd ar yr arfarniad cryno, a thrafodaeth a myfyrdodau ynghylch y DPP.
Gellir gwirio'r canllawiau DPP a gyhoeddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion drwy'r ddolen isod.
Cyflwyno eich DPP - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Mae'n ofynnol i Nyrsys ddangos 35 awr o DPP perthnasol i'w cwmpas ymarfer dros y tair blynedd cyn eu dyddiad ailddilysu
Gofynion ailddilysu - Coleg Brenhinol y Nyrsys
Seicolegwyr dilynwch y canllawiau ar wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal - Dilynwch y canllawiau ar wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol gael 90 awr o Hyfforddiant a Dysgu Ôl-gofrestru (PRTL) dros gyfnod o 3 blynedd
Gofal Cymdeithasol Cymru - Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn dilyn y canllawiau ar y dilyn y canllawiau ar wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
5. Tystiolaeth am bryd cynhaliwyd arfarniad a gan bwy er mwyn dangos arfarniad boddhaol
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais.
6. Tystysgrif presenoldeb mewn Cwrs Cynefino deuddydd i Glinigwyr Cymeradwy
Mynychu Hyfforddiant Cynefino i Glinigwyr Cymeradwy yng Nghymru neu un o'r digwyddiadau hyfforddi Clinigwyr Cymeradwy yn Lloegr sydd wedi'i gymeradwyo gan Baneli Cymeradwyo Rhanbarthol Lloegr. Rhaid ymgymeryd â’r hyfforddiant o fewn y cyfnod sydd ddwy flynedd yn union o flaen dyddiad y cais. Rhaid i bob tystysgrif fod yn gyfoes pan fydd y cais wedi'i graffu a'i ystyried yn gyflawn a heb gamgymeriadau gan y Tîm Cymeradwyo, yn barod i'w chyflwyno i'r Panel. Mae’n rhaid i bob tystysgrif barhau i fod yn ddilys pan fo’r Panel yn asesu ceisiadau.
7. Copi o Dystysgrif Cofrestru Proffesiynol ddilys sy'n bodloni gofynion
Atodlen 1 Cyfarwyddiadau 2018
Seiciatryddion – Tystysgrif GMC
Nyrsys – Tystysgrif NMC
Gweithwyr Cymdeithasol –Tystysgrif Gofal Cymdeithasol Cymru
Therapyddion Galwedigaethol – Tystysgrif HCPC
Seicolegwyr – Tystysgrif HCPC
8. Tystysgrif Cofnod Troseddol Manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997
Mae angen copi o'r dystysgrif Datgeliad a Gwahardd (DBS) ddiweddaraf gan Ymgeiswyr sy'n gweithio drwy Asiantaeth Gyflogaeth Locwm.
Mae'n rhaid i'r dystysgrif DBS gynnwys gwiriadau yn erbyn gwybodaeth Rhestr Waharddedig Plant y DBS a gwybodaeth Rhestr Waharddedig Oedolion y DBS.
9. Cadarnhad a wrthodwyd cais am gymeradwyaeth fel Clinigydd Cymeradwy mewn man arall
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais.
10. Cadarnhad ysgrifenedig gan Gyfarwyddwr Meddygol yr ymgeisydd y bydd yr ymgeisydd yn cael cyfle i weithio fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru
Os yw'r ymgeisydd yn weithiwr proffesiynol anfeddygol, dylai ei Bennaeth Gwasanaeth hefyd ddarparu cadarnhad.
11. Portffolio sy'n dangos tystiolaeth o feddu ar y cymwyseddau perthnasol fel yr amlinellir yn Atodlen 2 y Cyfarwyddiadau
Ni ddylid cyflwyno tystiolaeth sy'n hŷn na 2 flwydd oed ar dyddiad cyflwno'r cais.
Cyfeiriwch at y ddogfen Canllaw Portffolio a Rhestr Cynnwys y Portffolio yn y Pecyn Cais.
D.S. Mae'n bwysig dilyn rhestr Cynnwys y Portffolio er mwyn gosod y Portffolio yn y drefn gywir. Bydd hwn hefyd yn ganllaw i sicrhau eich bod wedi cyflwyno'r holl ddogfennau sydd eu hangen er mwyn i'r Panel gwblhau eu hasesiad.
Rhaid i'r ymgeisydd baratoi tri chopi o'u portffolio mewn ffeiliau bwa lifer gyda rhanwyr ffeiliau. I ddechrau, mae angen cyflwyno un portffolio i'w archwilio gan y Tîm Cymeradwyo. Pan gytunir bod y portffolio yn gyflawn, gwahoddir yr ymgeisydd i gyflwyno'r ddau gopi arall.
4. Panel Cymeradwyo ar gyfer ceisiadau gan feddygon ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC a meddygon sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant seiciatrig dan oruchwyliaeth a gydnabyddir gan RCPsych:
4.1 Bydd Panel Cymeradwyo sy'n cynnwys dau aelod yn adolygu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn annibynnol ar ei gilydd.
4.2 Ym mhob achos, bydd o leiaf un aelod o’r Panel o'r un proffesiwn neu faes gwasanaeth â'r ymgeisydd.
4.3 Os yw holl Aelodau'r Panel yn fodlon â'r dystiolaeth a dderbyniwyd, rhoddir cymeradwyaeth fel arfer o fewn cyfnod o 4 wythnos ar ôl cyflwyno'r dystiolaeth i'r Panel. Os yw'n debygol y bydd oedi y tu hwnt i'r cyfnod o 4 wythnos, hysbysir yr ymgeisydd yn unol â hynny.
Os nad yw penderfyniad yr Aelodau yn unfrydol:-
- bydd Aelodau'r Panel yn trafod y dystiolaeth ac yn dod i benderfyniad
- a/neu drafod gyda’r Clinigwyr Cymeradwy a Chadeirydd y Panel Adran 12(2) neu'r Tîm Cymeradwyo.
4.4 Ar ôl cwblhau'r asesiad, bydd y Panel yn argymell cymeradwyo os yw'r holl feini prawf wedi'u bodloni. Yma, bydd yr argymhelliad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w gadarnhau. Bydd llythyr ffurfiol yn cadarnhau'r gymeradwyaeth yn cael ei anfon at yr ymgeisydd.
5. Panel Cymeradwyo ar gyfer ceisiadau a gyflwynir gan feddygon nad ydynt ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC a gweithwyr proffesiynol anfeddygol
5.1 Bydd Panel Cymeradwyo o dri aelod yn cyfarfod i adolygu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y portffolio.
5.2Ym mhob achos, bydd o leiaf un aelod o'r Panel o'r un proffesiwn neu faes gwasanaeth â'r ymgeisydd.
5.3 Ar ôl derbyn y cais portffolio, bydd Tîm Cymeradwyo Cymru Gyfan yn gwirio'r portffolio i sicrhau bod yr holl dystiolaeth ddogfennol wedi'i derbyn (cyfeiriwch at y ddogfen Canllawiau Portffolio a Rhestr Cynnwys y Portffolio am fanylion pellach). Mae'n ofynnol cyflwyno un copi o'r portffolio ar gyfer y craffu cychwynnol.
5.4 Unwaith y bydd y cais portffolio wedi'i gwblhau, bydd y Tîm Cymeradwyo yn gwneud trefniadau i'r Panel gyfarfod.
5.5 IOs yw holl Aelodau'r Panel yn fodlon â'r dystiolaeth a dderbyniwyd, bydd y Tîm Cymeradwyo yn cysylltu â'r ymgeisydd i roi gwybod yn unol â hynny. Bydd llythyr ffurfiol yn cadarnhau'r gymeradwyaeth yn cael ei anfon at yr ymgeisydd. Os bydd y Panel yn cytuno ar gymeradwyo, bydd yr argymhelliad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w gadarnhau.
Os nad yw penderfyniad Aelodau'r Panel yn unfrydol:-
- Bydd Aelodau'r Panel yn trafod y dystiolaeth a naill ai'n cytuno i'w chymeradwyo neu'n gofyn am ragor o dystiolaeth gan yr ymgeisydd.
- Os bydd angen tystiolaeth bellach, rhoddir tri mis i ymgeiswyr ailgyflwyno er mwyn dangos eu cymhwysedd ac anfonir awgrym yn ysgrifenedig at yr ymgeisydd i ystyried cysylltu â'u Cyfarwyddwr Clinigol os oes angen cymorth.
- Bydd Aelodau'r Panel yn cyfarfod i asesu'r dystiolaeth newydd sydd wedi’i chyflwyno. Os bydd Aelodau'r Panel yn ystyried bod y dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn dderbyniol, hysbysir yr ymgeisydd. Os bydd y Panel yn cytuno nad yw’r dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn dangos cymhwysedd, bydd yr ymgeisydd yn cael tri mis arall i ailgyflwyno tystiolaeth. Hysbysir y Cyfarwyddwr Clinigol bod tri mis olaf ar gyfer ailgyflwyno wedi'i ganiatáu.
- Bydd Aelodau'r Panel yn cyfarfod i asesu'r dystiolaeth derfynol a ailgyflwynwyd. Os bydd Aelodau'r Panel yn ystyried bod y dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn dderbyniol, hysbysir yr ymgeisydd. Os bydd y Panel yn asesu nad yw'r ailgyflwyniadau terfynol yn dangos cymhwysedd, hysbysir yr ymgeisydd a'r Cyfarwyddwr Clinigol. Mae’n bosibl na chanieteir cyflwyno ceisiadau pellach am gymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy drwy’r llwybr portffolio yn o fewn blwyddyn i ddyddiad penderfyniad y Panel.
D.S. Gall y broses asesu gymryd o leiaf 6 mis i'w chwblhau o'r dyddiad y cyflwynir y portffolio yn wreiddiol i'r Tîm Cymeradwyo.
6. Clinigwyr Cymeradwy sydd eisoes wedi'u cymeradwyo yn Lloegr, sy'n ceisio cymeradwyaeth yng Nghymru, gan gynnwys ymarferwyr meddygol cofrestredig a gyflogir ar sail locwm.
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol ar y Tîm Cymeradwyo gan ymgeiswyr o Loegr cyn y rhoddir cymeradwyaeth iddynt ymarfer fel Clinigwyr Cymeradwy yng Nghymru:
1. Ffurflen Datganiad AC3
Datganiad gan yr ymgeisydd wedi'i lofnodi gan y cyflogwr newydd yng Nghymru (Cyfarwyddwr Clinigol neu glinigydd cyfatebol sydd â gwybodaeth am y cymwyseddau a nodir yn Atodlen 2 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. (Cyfarwyddiadau Clinigwyr Cymeradwy) (Cymru) 2018), yn cadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion proffesiynol a bod ganddo’r cymwyseddau perthnasol i gyflawni’r swyddogaethau fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru, fel y nodir yn Atodlen 2 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, Cyfarwyddiadau 1983 (Clinigwyr Cymeradwy) (Cymru) 2018. Yn ystod y broses recriwtio, fel arfer mewn cyfweliad, disgwylir y bydd y cyflogwr yn sicrhau bod yr ymgeisydd yn gallu dangos bod ganddo wybodaeth am y cymwyseddau ychwanegol sy'n berthnasol i Gymru a'i fod yn gallu eu cyflawni. Bydd y datganiad wedi'i lofnodi yn manylu ar y cymwyseddau ychwanegol ar gyfer Cymru (rhaid i'r datganiad hwn fod ar bapur pennawd gan ddefnyddio'r templed AC3 a ddarperir gan Dîm Cymeradwyo BIPBC).
2. Dau Eirda
Canolwr 1
Rhaid i un o'r canolwyr fod yn Gyfarwyddwr Meddygol neu Gyfarwyddwr Clinigol cyfredol neu diweddaraf, neu gyfatebol o Loegr, ond lle bo ymgeisydd ar raglen hyfforddi a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, gall y canolwr fod yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi neu'n unigolyn y mae'r corff cymeradwyo yn ei ystyried yn cyfateb â Chyfarwyddwr Rhaglen (h.y. Goruchwylydd Addysg cyfredol neu ddiweddaraf). Mae'n rhaid bod Canolwr 1 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn ystod y deuddeg mis blaenorol.
Canolwr 2
Mae'n rhaid i un o'r canolwyr fod yn Glinigwr Cymeradwy o Loegr, fodd bynnag, os yw'r Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol/Meddygol/Hyfforddiant neu gyfwerth yn Glinigwr Cymeradwy, gellir dewis Canolwr 2 o un o'r categorïau a restrir:-
- Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GIMPC) y mae’r ymgeisydd wedi gweithio gydag ef o fewn y deuddeg mis blaenorol.
- Seiciatrydd Ymgynghorol sydd wedi'i gymeradwyo yn feddyg adran 12(2).
Mae'n rhaid bod Canolwr 2 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yng Nghymru neu Loegr yn ystod y 2 flynedd flaenorol (yn y 12 mis blaenorol os yw'r canolwr a enwebwyd yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (WIMPC). Mae'n rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau am eich dealltwriaeth o’r Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) a'ch gallu i’w rhoi ar waith. Mae gan y Tîm Cymeradwyo ffurflenni geirda pro fforma y dylai eich canolwr eu llenwi.
* Mae'n rhaid bod un o'r ddau ganolwr wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn y 12 mis cyn dyddiad y cais.
3. Cytundeb gan y sefydliad sy'n cyflogi y bydd yr ymgeisydd yn cael cyfle i weithio fel Clinigydd Cymeradwy.
Darperir hwn fel arfer gan y Cyfarwyddwr Clinigol.
4. Tystiolaeth gan y Corff Cymeradwyo yn Lloegr fod gan yr ymgeisydd statws Clinigydd Cymeradwy, a’r amserlen ar gyfer ei adnewyddu.
Copi o lythyr cymeradwyo'r Clinigydd Cymeradwy o Loegr.
5. Curriculum Vitae
Dylai'r CV ddangos tystiolaeth o weithgarwch a dysgu sy'n ymwneud â chymwyseddau Clinigydd Cymeradwy i arwain a rheoli gofal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Dylai'r CV gael ei ddilysu (ei lofnodi a'i ddyddio) gan y Cyfarwyddwr Meddygol neu'r Cyfarwyddwr Clinigol neu'r Rheolwr Gwasanaeth lle bo'n berthnasol.
- Rhaid cynnwys cyflogaeth bresennol a blaenorol mewn trefn gronolegol gan ddechrau gyda'r gyflogaeth ddiweddaraf
- Dylid cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob swydd yn y fformat dd.mm.yyyy
- Dylai'r CV gynnwys teitl/graddfa'r swydd, enw llawn a chyfeiriad y cyflogwr.
- Rhaid i'r CV ddangos tystiolaeth o weithio ar radd uwch am o leiaf 4 blynedd.
6. Tystysgrif Cofnod Troseddol Manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997.
Mae angen copi o dystysgrif ddiweddaraf y Cynllun Datgelu a Gwahardd (DBS) gan Ymgeiswyr sy'n gweithio drwy Asiantaeth Gyflogaeth Locwm.
Mae'n rhaid i'r dystysgrif DBS gynnwys gwiriadau yn erbyn gwybodaeth Rhestr Waharddedig Plant y DBS a gwybodaeth Rhestr Waharddedig Oedolion y DBS.
7. Ailgymeradwyaeth Pum Mlynedd
7.1 Cyfrifoldeb Clinigwyr Cymeradwy yw sicrhau eu bod yn cynnal eu statws. Dylai ymgeiswyr gyflwyno eu cais am ail-gymeradwyaeth tua saith wythnos cyn y dyddiad dod i ben. I'r perwyl hwn, bydd y Tîm Cymeradwyo yn anfon un nodyn atgoffa, chwe mis cyn y dyddiad dod i ben. Os daw cais i law fwy na dau fis cyn y dyddiad dod i ben, dylai’r ymgeisydd esbonio pam ei fod yn ceisio ailgymeradwyaeth yn gynt na’r disgwyl. Dylai Clinigwyr Cymeradwy nodi bod mynychu hyfforddiant diweddaru ar gyfer Clinigwyr Cymeradwy yn ofyniad gorfodol ar gyfer ailgymeradwyaeth. Rhaid i bob tystysgrif fod yn gyfoes pan fydd y cais wedi'i graffu a'i ystyried yn gyflawn a heb gamgymeriadau gan y Tîm Cymeradwyo, yn barod i'w chyflwyno i'r Panel. Mae’n rhaid i bob tystysgrif barhau i fod yn ddilys pan fo’r Panel yn asesu ceisiadau.
7.2 Bydd ar y Panel Cymeradwyo angen yr wybodaeth ganlynol gan ymgeiswyr bob pum mlynedd er mwyn i Glinigwyr Cymeradwy barhau i ymarfer yng Nghymru:-
1. Ffurflen Gais
Rhaid llenwi'r ffurflen gais yn llawn heb gamgymeriadau.
2. Dau Eirda
Canolwr 1
Rhaid i un o'r canolwyr fod yn Gyfarwyddwr Meddygol neu Gyfarwyddwr Clinigol cyfredol neu diweddaraf, neu gyfwerth, ond lle bo ymgeisydd ar raglen hyfforddi a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, gall y canolwr fod yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi neu'n unigolyn y mae'r corff cymeradwyo yn ei ystyried yn gyfwerth â Chyfarwyddwr Rhaglen (h.y. Goruchwylydd Addysg cyfredol neu ddiweddaraf).
Mae'n rhaid bod Canolwr 1 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn ystod y deuddeg mis blaenorol.
Canolwr 2
Mae'n rhaid i un o'r canolwyr fod yn Glinigwr Cymeradwy, fodd bynnag, os yw'r Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol/Meddygol/Hyfforddiant neu gyfwerth yn Glinigwr Cymeradwy, gellir dewis Canolwr 2 o un o'r categorïau a restrir:-
- Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GIMPC) y mae’r ymgeisydd wedi gweithio gydag ef o fewn y deuddeg mis blaenorol
- Seiciatrydd Ymgynghorol sydd wedi'i gymeradwyo yn feddyg adran 12(2).
Mae'n rhaid bod Canolwr 2 wedi eich adnabod neu wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yng Nghymru neu Loegr yn ystod y 2 flynedd flaenorol (yn y 12 mis blaenorol os yw'r canolwr a enwebwyd yn Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GIMPC).
Mae'n rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau am eich dealltwriaeth o’r Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) a'ch gallu i’w rhoi ar waith. Mae gan y Tîm Cymeradwyo ffurflenni geirda pro fforma y dylai eich canolwr eu llenwi. * Mae'n rhaid bod un o'r ddau ganolwr wedi gweithio gyda chi am o leiaf dri mis yn y 12 mis cyn dyddiad y cais.
3. Curriculum Vitae
Dylai'r CV ddangos tystiolaeth o weithgarwch a dysgu sy'n ymwneud â chymwyseddau Clinigydd Cymeradwy i arwain a rheoli gofal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Dylai'r CV gael ei ddilysu (ei lofnodi a'i ddyddio) gan y Cyfarwyddwr Meddygol neu'r Cyfarwyddwr Clinigol neu'r Rheolwr Gwasanaeth lle bo'n berthnasol.
- Rhaid cynnwys cyflogaeth bresennol a blaenorol mewn trefn gronolegol gan ddechrau gyda'r gyflogaeth ddiweddaraf
- Dylid cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob swydd yn y fformat dd.mm.yyyy
- Dylai'r CV gynnwys teitl/graddfa'r swydd, enw llawn a chyfeiriad y cyflogwr.
- Rhaid i'r CV ddangos tystiolaeth o weithio ar radd uwch am o leiaf 4 blynedd.
4. Tystiolaeth gyfredol o ofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n seiciatryddion gyflwyno naill ai dystysgrif enw da a gyhoeddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn perthynas â DPP, neu Gofnod DPP Cymru Gyfan neu dystiolaeth o'r arfarniad blynyddol boddhaol mwyaf diweddar sy'n cyfeirio at gyflawni DPP. Os cyflwynir y dystiolaeth arfarnu ddiweddaraf, bydd yn ddigon darparu’r tudalennau hynny sy’n dangos y wybodaeth ganlynol yn unig:
Enw'r arfarnai, enw'r arfarnwr, dyddiad yr arfarniad, y dyddiad y cytunwyd ar yr arfarniad cryno, a thrafodaeth a myfyrdodau ynghylch y DPP.
Cyflwyno eich DPP - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Mae'n ofynnol i Nyrsys ddangos 35 awr o DPP perthnasol i'w cwmpas ymarfer dros y tair blynedd cyn eich dyddiad ailddilysu.
Gofynion ailddilysu - Coleg Brenhinol y Nyrsys
Seicolegwyr: dilynwch y canllawiau ar wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol gael 90 awr o Hyfforddiant a Dysgu Ôl-gofrestru (PRTL) dros gyfnod o 3 blynedd
Gofal Cymdeithasol Cymru - Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Therapyddion Galwedigaethol – Dilynwch y canllawiau ar Wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
5. Tystiolaeth am pryd cynhaliwyd arfarniad a gan bwy er mwyn dangos arfarniad boddhaol
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais
6. Tystysgrif presenoldeb mewn Hyfforddiant Gloywi i Glinigwyr Cymeradwy
Mynychu Hyfforddiant Gloywi i Glinigwyr Cymeradwy yng Nghymru neu un o'r digwyddiadau hyfforddi Clinigwyr Cymeradwy yn Lloegr sydd wedi'i gymeradwyo gan Baneli Cymeradwyo Rhanbarthol Lloegr. Rhaid ymgymryd â’r hyfforddiant o fewn y cyfnod sydd ddwy flynedd yn union o flaen y dyddiad dod i ben. Rhaid i bob tystysgrif fod yn gyfoes pan fydd y cais wedi'i graffu a'i ystyried yn gyflawn a heb gamgymeriadau gan y Tîm Cymeradwyo, yn barod i'w chyflwyno i'r Panel. Mae’n rhaid i bob tystysgrif barhau i fod yn ddilys pan fo’r Panel yn asesu ceisiadau.
7. Copi o Dystysgrif Cofrestru Proffesiynol ddilys sy'n bodloni gofynion Atodlen 1 o Gyfarwyddiadau 2018
Seiciatryddion – Tystysgrif GMC
Nyrsys – Tystysgrif NMC
Gweithwyr Cymdeithasol –Tystysgrif Gofal Cymdeithasol Cymru
Therapyddion Galwedigaethol – Tystysgrif HCPC
Seicolegwyr – Tystysgrif HCPC
8. Tystysgrif Cofnod Troseddol Manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997.
Mae angen copi o'r dystysgrif Datgeliad a Gwahardd (DBS) ddiweddaraf gan Ymgeiswyr sy'n gweithio drwy Asiantaeth Gyflogaeth Locwm.
Mae'n rhaid i'r dystysgrif DBS gynnwys gwiriadau yn erbyn gwybodaeth Rhestr Waharddedig Plant y DBS a gwybodaeth Rhestr Waharddedig Oedolion y DBS.
9. Cadarnhad a wrthodwyd cais am gymeradwyaeth fel Clinigydd Cymeradwy mewn man arall
Manylion i'w cynnwys yn y Ffurflen Gais.
10. Cadarnhad ysgrifenedig gan Gyfarwyddwr Clinigol yr ymgeisydd y bydd yr ymgeisydd yn parhau i gael cyfle i weithio fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru
Dylid gofyn am gadarnhad gan y Cyfarwyddwr Clinigol. Os yw'r ymgeisydd yn weithiwr proffesiynol anfeddygol, dylai ei Bennaeth Gwasanaeth hefyd ddarparu cadarnhad.
8. Amodau Cymeradwyo
8.1 Rhaid i bob Clinigydd Cymeradwy gydymffurfio â'r amodau cymeradwyo. Mae unrhyw gymeradwyaeth a roddir yn amodol ar yr amodau canlynol fel y’i nodir yng Nghyfarwyddiadau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Clinigwyr Cymeradwy) (Cymru) 2018.
8.2 Rhaid i'r sefydliad sy'n cyflogi/Clinigydd Cymeradwy hysbysu'r Corff Cymeradwyo (BIPBC) ar unwaith os nad yw bellach yn parhau i fodloni unrhyw un o'r gofynion a nodir yn Rhan 2 (3 – Rhoi Cymeradwyaeth) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Cyfarwyddiadau Clinigwyr a Gymeradwywyd) (Cymru) 2018) mewn achos o ailgymeradwyaeth, neu os caiff ei wahardd rhag cofrestru neu restru o dan ofynion o’r fath, neu os oes ganddo amodau ynghlwm wrthynt.
8.3 Rhaid i'r Clinigydd Cymeradwy roi'r gorau i weithredu ar unwaith a hysbysu'r Bwrdd sy'n cymeradwyo ar unwaith os caiff ei atal o unrhyw un o'r cofrestrau neu restrau y cyfeirir atynt yn y gofynion proffesiynol;
8.4 Rhaid i'r Clinigydd Cymeradwy hysbysu'r Bwrdd sy'n cymeradwyo ar unwaith
(i) os yw ei gorff proffesiynol wedi atodi unrhyw amodau i'w Gofrestriad neu restr;
(ii) eu bod yn dod yn destun achos cymhwyster i ymarfer gan eu corff proffesiynol;
(iii) nad ydynt bellach yn bodloni'r gofynion a nodir yng nghyfarwyddyd 4 neu 9, fel bo'r achos;
(iv) eu bod yn cael eu collfarnu, neu’n cael rhybuddiad am dramgwydd troseddol yn y Deyrnas Unedig, neu’n cael eu collfarnu neu’n cael rhybuddiad am drosedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig a fyddai, o’i chyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn drosedd.
8.5 Rhaid i'r Clinigydd Cymeradwy roi'r gorau i weithredu fel Clinigydd Cymeradwy ar unwaith os yw ei cgymeradwyaeth wedi’i hatal neu, pan ddaw'r cyfnod cymeradwyo i ben pan nad yw wedi gwneud cais am ailgymeradwyaeth.
9. Atal Cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy
9.1 Os yw corff proffesiynol y Clinigydd Cymeradwy yn atal cofrestriad neu restriad clinigydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymeradwyo, rhaid i'r Bwrdd sy'n cymeradwyo, atal cymeradwyaeth y clinigydd hwnnw cyhyd ag y caiff y cofrestriad neu'r rhestriad ei atal.
9.2 Os yw corff proffesiynol wedi gosod amodau ynghlwm wrth gofrestriad neu restriad Clinigydd Cymeradwy ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymeradwyo, gall y Bwrdd Cymeradwyo atal cymeradwyaeth yr unigolyn hwnnw dros dro.
9.3 Os, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymeradwyo, bydd Clinigydd Cymeradwy yn cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu'n derbyn rhybuddiad am drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu'n cael ei gollfarnu neu'n cael rhybuddiad am drosedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig a fyddai, o'i chyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn drosedd, caiff y Bwrdd Cymeradwyo atal cymeradwyaeth yr unigolyn hwnnw dros dro.
9.4 Cyn i'r Bwrdd Cymeradwyo atal cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy o dan baragraffau 11.1 ac 11.2, mae’n rhaid iddo:-
a. roi ei resymau dros ystyried atal y gymeradwyaeth i'r Clinigydd Cymeradwy;
b. rhoi cyfnod o amser y mae'r Bwrdd Cymeradwyo yn ei ystyried yn rhesymol i'r Clinigydd Cymeradwy wneud sylwadau mewn perthynas â'r cam arfaethedig; a
c. Ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan y Clinigydd Cymeradwy i'r Bwrdd Cymeradwyo.
9.5 Pan fydd y Bwrdd Cymeradwyo yn atal cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy, bydd y Bwrdd Cymeradwyo yn hysbysu'r Clinigydd Cymeradwy a'r corff proffesiynol sy'n gyfrifol am reoleiddio cofrestriad proffesiynol y Clinigydd Cymeradwy neu restr, o'i resymau dros y penderfyniad.
9.6 Os caiff cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy ei hatal, ni chaiff yr unigolyn hwnnw weithredu yn rhinwedd y swydd honno oni bai bod y Bwrdd Cymeradwyo yn dod â'r ataliad dros dro i ben.
9.7 Pan fo cyfnod atal y gymeradwyaeth wedi dod i ben, bydd y gymeradwyaeth yn parhau i redeg am weddill y cyfnod cymeradwyo oni bai bod y Bwrdd Cymeradwyo yn dod ag ef i ben yn gynharach yn unol â Chyfarwyddyd 8.
10 Dileu Cymeradwyaeth
10.1 Ystyrir dirymu/atal Cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy os:
- Derbynnir tystiolaeth bod risg i ddiogelwch cleifion.
- Lle mae tystiolaeth nad yw clinigydd wedi dangos barn gytbwys mewn perthynas â chymhwyso ac ymarfer deddfwriaeth iechyd meddwl.
10.2 Gweithdrefn
Yn y sefyllfaoedd a ddisgrifir isod, bydd y Tîm Cymeradwyo yn archwilio’r pryderon ac yn gwneud argymhellion:
a) Mae unigolyn yn codi pryder ynglŷn â statws Clinigydd Cymeradwy y clinigydd
Ni fydd y Tîm Cymeradwyo yn ymchwilio i bryderon unigol ond bydd yn cyfeirio'r mater at y sefydliad sy'n cyflogi a/neu'r corff rheoleiddio i'w ymchwilio ymhellach. Yn y cyfamser, oni bai bod y cyhuddiad yn ddifrifol, cedwir statws y Clinigydd Cymeradwy.
Os bydd yr ymarferydd yn gweithio ar ei liwt ei hun, bydd y Tîm Cymeradwyo yn adolygu'r pryderon ac yn penderfynu ar y camau priodol i'w cymryd. Os bydd angen, bydd y Tîm Cymeradwyo yn cyfeirio'r clinigydd at y corff rheoleiddio perthnasol, neu'n cynghori'r achwynwr i gyfeirio'r clinigydd at y corff rheoleiddio perthnasol.
b) Mae sefydliad sy'n cyflogi yn diswyddo, yn atal clinigydd neu'n gosod cyfyngiadau ar ymarfer:
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Panel yn gofyn i'r sefydliad sy'n cyflogi am wybodaeth berthnasol am y rhesymau y tu ôl i'r ataliad/cyfyngiad ar ymarfer. Bydd y Tîm Cymeradwyo yn adolygu'r wybodaeth sydd ar gael ac yn argymell camau gweithredu. Mae gan bob sefydliad ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i statws Clinigydd Cymeradwy unigolyn gan y gall weithio yn rhywle arall, ac nid oes gan gyflogwyr unrhyw bŵer i newid statws Clinigydd Cymeradwy.
Mae’r canlyniadau sydd ar gael i’r Tîm Cymeradwyo fel a ganlyn:
- Dileu statws Clinigydd Cymeradwy
- Atal statws Clinigydd Cymeradwy wrth aros am ymchwiliadau
- Argymell y Panel i ailasesu cymhwysedd mewn rolau Clinigydd Cymeradwy
- Gadael statws Clinigydd Cymeradwy heb ei newid
c) Cyrff Cofrestru Proffesiynol
Cyfeiriwch at eich Corff Cofrestru Proffesiynol (Cyngor Meddygol Cyffredinol, Coleg Brenhinol y Nyrsys, y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) i gael gwybodaeth am eu prosesau ar gyfer ymdrin â phryderon cymhwysedd i ymarfer.
Tra bo’r Clinigydd Cymeradwy yn destun ymchwiliad, bydd angen i'r Corff Cymeradwyo benderfynu a ddylai'r unigolyn barhau i gael cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy ai peidio. Os yw'r materion yn ddifrifol ac o bosibl yn peri risg i gleifion, efallai y bydd yn rhaid atal y statws Clinigydd Cymeradwy; mewn amgylchiadau eraill efallai na fydd hyn yn effeithio ar statws Clinigydd Cymeradwy.
11. Diwedd y Gymeradwyaeth
11.1 Mae cymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy yn dod i ben pan ddaw cyfnod y gymeradwyaeth i ben.
11.2 Rhaid i'r Bwrdd Cymeradwyo ddod â chymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy i ben cyn i'r cyfnod cymeradwyo ddod i ben, o dan yr amgylchiadau canlynol:
a) os nad yw'r Clinigydd Cymeradwy ym marn y Bwrdd, yn cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a restrir yng nghyfarwyddyd 6.(1),
b) os nad oes gan y Clinigydd Cymeradwy ym marn y Bwrdd Cymeradwyo, y cymwyseddau perthnasol mwyach,
c) os nad yw'r Clinigydd Cymeradwy yn bodloni'r gofynion proffesiynol mwyach, neu
d) os bydd Clinigydd Cymeradwy yn gwneud cais ysgrifenedig i derfynu ei gymeradwyaeth.
e) os caiff trwydded y Clinigydd Cymeradwy i ymarfer ei dileu gan ei gorff rheoleiddio proffesiynol e.e. GMC/HCPC/NMC/SCCW, mae'n rhaid i'r gymeradwyaeth ddod i ben. Os caiff y drwydded ei hadfer yn ddiweddarach, a bod y gweithiwr proffesiynol yn gofyn i’w statws cymeradwyo gael ei adfer, bydd angen yr wybodaeth ganlynol ar y Corff Cymeradwyo a fydd yn cael ei chydgysylltu gan y Tîm Cymeradwyo.
- Llythyr o gadarnhad gan Gyfarwyddwr Clinigol neu Gyfarwyddwr Meddygol y bydd y gweithiwr proffesiynol yn cael cyfle parhaus i weithio fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru.
- Bydd y Bwrdd Cymeradwyo hefyd yn gwneud ymholiadau perthnasol i Gyfarwyddwr Meddygol y gweithiwr proffesiynol neu swyddog cyfatebol, am sicrwydd yn ymwneud â goruchwylio a rheoli’r gweithiwr proffesiynol, neu unrhyw ymholiad perthnasol arall, fel y’i bernir yn rhesymol, gan y Bwrdd Cymeradwyo.
- Bydd y Tîm Cymeradwyo yn gwirio bod trwydded y gweithiwr proffesiynol i ymarfer wedi’i hadfer.
f) os bydd y bwrdd Cymeradwyo yn barnu bod yr holl wybodaeth yn bodloni’r gofynion uchod, bydd y Bwrdd yn ystyried cadarnhau adfer y gymeradwyaeth am weddill y cyfnod cymeradwyo o bum mlynedd.
11.3 Cyn i'r Bwrdd Cymeradwyo ddod â chymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy i i ben yn unol a pharagraffau 2(a)-(c), bydd y Bwrdd Cymeradwyo yn:
- Rhoi ei resymau i'r Clinigydd Cymeradwy dros ystyried terfynu'r gymeradwyaeth;
- Rhoi cyfnod o amser y mae'r Bwrdd Cymeradwyo yn ei ystyried yn rhesymol i'r Clinigydd Cymeradwy wneud sylwadau mewn perthynas â'r cam arfaethedig; a
- Ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan yr unigolyn i'r Bwrdd Cymeradwyo.
Pan fo'r Bwrdd Cymeradwyo yn dod â chymeradwyaeth Clinigydd Cymeradwy i ben yn unol a pharagraff (2), rhaid i'r Bwrdd hysbysu'r clinigydd hwnnw ar unwaith, yn ysgrifenedig, o'r dyddiad y daw'r gymeradwyaeth i ben a'r rheswm dros ddod â'r gymeradwyaeth i ben.
12. Trefniadau Llywodraethu
12.1 Mae Cyfarwyddwyr Clinigol a rheolwyr gwasanaeth neu rai â statws cyfatebol yn atebol am sicrhau bod y clinigwyr cymeradwy yn eu gwasanaethau yn gymwys i gyflawni'r swyddogaethau ac yn cael eu cefnogi a'u goruchwylio i wneud hynny. Maen nhw'n gyfrifol am sicrhau:-
Nhw sy’n gyfrifol am sicrhau hynny:-
- Dim ond y rhai sy'n gymwys i ddod yn glinigwyr cymeradwy sy'n cael gwneud cais am gymeradwyaeth
- Dim ond y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gymwys i weithredu fel clinigwyr cyfrifol sy'n cyflawni'r swyddogaethau hynny; a
- Bod trefn effeithiol o oruchwyliaeth glinigol, rheoli datblygiad proffesiynol ac arfarnu perfformiad ar waith ar gyfer pob clinigydd cymeradwy (a'r rhai sy'n paratoi ar gyfer cymeradwyaeth neu'n ceisio am gymeradwyaeth).