We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Cookie policy.
Cookie settings.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.
Hygyrchedd
Caiff y wefan hon ei chynnal gan Dîm Cymeradwyo Cymru Gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch fel y gall cynifer o bobl â phosibl ei defnyddio.
Sut y gallwch ddefnyddio'r wefan hon
Rydym yn anelu at sicrhau bod ein gwefannau'n hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau,
- chywyddo i mewn hyd at 300% gyda'r testun yn aros yn weladwy ar y sgrin, a graddio'r rhan fwyaf o ddelweddau heb golli eglurdeb
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- darllen y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin, gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver
- darllen y rhan fwyaf o'r wefan ar ddyfeisiau heb sgrin, fel cyfrifiadur braille
- defnyddio'r wefan hyd yn oed os yw Javascript wedi'i ddiffodd
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml i'w ddeall â phosibl.
Mae rhywfaint o'n cynnwys yn dechnegol, ac rydym yn defnyddio termau technegol lle nad oes geiriad haws y gallem ei ddefnyddio heb newid ystyr y testun.
Os oes gennych anabledd, mae cyngor ar AbilityNet i helpu i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.
Hygyrchedd y wefan hon
Mae'r holl dudalennau ar y wefan yn anelu at gydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd a amlinellir gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C) ac arweiniad hygyrchedd arall. Mae'r wefan hon wedi cael ei phrofi'n ôl Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (CHCyW) 2.1. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut i wneud cynnwys y we'n fwy hygyrch i bobl sydd ag anableddau, ac yn fwy hwylus i bawb. Gwnaethom gynllunio holl dudalennau'r wefan hon i fod yn gwbl hygyrch o ran y safonau ac i gynnwys yr holl anableddau sy'n effeithio ar fynediad at y wefan.
Sut i gael gwybodaeth mewn fformat hygyrch
Os ydych yn cael problemau i gyrchu gwybodaeth ar y wefan hon, neu os hoffech gael unrhyw wybodaeth mewn fformat gwahanol fel PDF mwy hygyrch, print mawr, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain, neu Braille, defnyddiwch un o'r dulliau canlynol cysylltwch â ni.
Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn cysylltu â chi o fewn 30 diwrnod gwaith.
Rhoi Gwybod am Broblemau Hygyrchedd
Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan.
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd. Os na fyddwch yn fodlon ar sut byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar Gydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Tîm Cymeradwyo Cymru Gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) Cyrff Sector Cyhoeddus (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1.Web Content Accessibility Guidelines version 2.1
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn monitro cydymffurfiaeth hygyrchedd ein gwefan yn barhaus ac ar gyfer unrhyw ddiweddariadau a wneir, rydym yn dilyn meini prawf llym canllawia WCAG 2.1 (AA).
Rydym bellach wedi integreiddio Teclyn Hygyrchedd newydd o'r enw UserWay. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod.
Teclyn Hygyrchedd Userway
Mae Teclyn Hygyrchedd UserWay yn cynnig ystod eang o swyddogaethau y gall cleifion eu defnyddio i ddiwallu eu hanghenion hygyrchedd unigol.
Mae Userway yn darparu'r swyddogaeth hygyrchedd canlynol:
- Llywio â bysellfwrdd
- Darllenydd Sgrin
- Cynyddu Maint y Testun
- Animeiddiadau Stopio Symudiadau
- Tooltips
- Trosi i Ffontiau Hygyrch
- Uwcholeuo Dolenni
- Cyrchwr mwy o faint
- Canllaw Darllen
- Modd Tywyll
- Modd Llachar
- Gwrthdroi Lliwiau
- Gofodau rhwng Testun
- Dad-ddwysáu Lliwiau
- Datgelu Strwythur Tudalennau
Cydweddoldeb â phorwyr a thechnoleg gynorthwyol
Dyluniwyd y wefan hon i gydweddu â'r technolegau cynorthwyol canlynol:
- NVDA gyda Google Chrome
- NVDA gyda Firefox
- NVDA gydag Edge
- NVDA gyda Safari
- JAWS gydag Internet Explorer
- JAWS gyda Google Chrome
- JAWS gyda Firefox
- JAWS gydag Edge
- JAWS gyda Safari
Mae sut mae ein gwefan yn edrych yn seiliedig ar HTML5, CSS3 ac rydym yn profi ar gyfer y porwyr canlynol ac yn eu cynnal:
- Google Chrome (fersiynau a gynhelir)
- Mozilla Firefox (fersiynau a gynhelir)
- Microsoft Edge (fersiynau a gynhelir)
- Apple Safari (fersiynau a gynhelir)
Sut rydym yn profi'r wefan hon
Rydym yn cynnal profion mewnol ar gyfer materion hygyrchedd cyffredin nad oes modd dod o hyd iddynt drwy brofion awtomatig, ar ffurf samplau.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 23 Medi 2024 gan Tree View Designs Ltd. Gwnaethom brofi'r dudalen hafan a 10 o dudalennau ar hap. Disgwylir i'r adolygiad nesaf gael ei gynnal ar 23 Medi 2025 gan Tree View Designs Ltd.
Nodweddion hygyrchedd yr ydym yn eu profi â llaw
- cyferbynnedd lliw, sy'n cael ei wneud ar y cam dylunio gan ddefnyddio offer i sicrhau ein bod yn cyrraedd safon AAA cymhareb cyferbynnedd o 4.5:1
- gwiriad â llaw yn erbyn y dilysydd W3C
- sicrhau bod elfennau tudalennau'n rendro'n gywir o bob maint, gan gynnwys o'u chwyddo i 500%
- archwilio arwyddnodiadau microddata a thestun amgen gan ddefnyddio offer arbennig
- gwirio cynnwys mewn porwr testun-yn-unig
- defnyddio rhaglenni darllen sgrin er mwyn darllen testun yn uchel
- defnyddio offer efelychu anableddau i bori'r wefan