We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Cookie policy.
Cookie settings.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.
Gwneud cais am Gymeradwyaeth
Pa fath o gymeradwyaeth sy'n iawn i mi?
Mae dau fath o gymeradwyaeth: naill ai Clinigwr Cymeradwy neu gymeradwyaeth Meddyg Adran 12(2).
Gwybodaeth
Ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig ac Ymarferwyr Amlbroffesiynol, adolygwch Drefniadau Gweithdrefnol Clinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan a hefyd adolygwch Arweiniad Llywodraeth Cymru adolygiad AC Dogfen Trefniadau Gweithdrefnol a hefyd Arweiniad Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer ymarferwyr meddygol yn unig, unwaith y caiff cymeradwyaeth Clinigwr Cymeradwy ei rhoi, mae hyn hefyd yn cyflwyno cymeradwyaeth Adran 12(2). Ar gyfer ymarferwyr amlbroffesiynol nad ydynt yn ymarferwyr meddygol cofrestredig, nid yw cymeradwyaeth Clinigwr Cymeradwy hefyd yn cyflwyno cymeradwyaeth Adran 12(2).
Efallai y bydd ymarferwyr sydd â statws Clinigwr Cymeradwy wedi'i roi gan un o'r pedwar panel cymeradwyo rhanbarthol yn Lloegr yn gymwys i wneud cais am gymeradwyaeth trwy lwybr carlam Clinigwyr Cymeradwy Cymru. Gweler Trefniadau Gweithdrefnol Clinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan i gael rhagor o wybodaeth a'r ffordd berthnasol i chi wneud cais. Cyfeiriwch at y Trefniadau Gweithdrefnol Clinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan am ragor o wybodaeth a'ch llwybr ymgeisio.
Ar gyfer ymarferwyr meddygol sy'n ceisio cymeradwyaeth Adran 12(2) yn unig, adolygwch y gofynion cymhwyster a dogfennaeth a restrir ym Mhroses a Meini Prawf Adran 12(2) Cymru Gyfan S12 Dogfen Proses a Meini Prawf.
Ar gyfer yr holl ymgeiswyr sy'n ceisio cymeradwyaeth, cyflwynwch ffurflen ymholiad a rhowch fanylion llawn am y math o gymeradwyaeth yr ydych yn ei geisio cyflwyno ffurflen ymholiad a rhowch fanylion llawn y math o gymeradwyaeth yr ydych yn ei cheisio.
Bydd Tîm Cymeradwyaeth Cymru Gyfan yn ymateb i'ch ymholiad ac yn anfon ffurflen gais atoch chi, templed cyfeirio a dogfennaeth yn ymwneud â cheisiadau eraill. Os nad ydych yn siŵr pa fath o gymeradwyaeth yr ydych yn gymwys i wneud cais amdano, rhowch wybod i'r Tîm am hyn ar eich ffurflen ymholiad a byddwn yn cysylltu â chi i drafod ac i gynghori.
Yn dal i fod yn ansicr?
Os ydych yn ansicr, edrychwch ar yr arweiniad canlynol.