Cyrsiau Hyfforddiant y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Gofyniad Hyfforddiant y Ddeddf Iechyd Meddwl

AMae gofyn i'r holl ymgeiswyr sy'n ceisio cymeradwyaeth Adran 12(2) neu fel Clinigwr Cymeradwy fod wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cynefino neu gwrs hyfforddiant diweddaru a achredir yn genedlaethol ar y Ddeddf Iechyd Meddwl cyn cyflwyno cais am gymeradwyaeth neu ail-gymeradwyaeth.

  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu hyfforddiant a achredir yn genedlaethol bedair gwaith y flwyddyn.
  • Caiff cyrsiau cynefino eu cynnal dros ddau ddiwrnod llawn a chaiff cyrsiau diweddaru eu cynnal dros un diwrnod llawn.
  • Mae'n rhaid i'r sawl sy'n cymryd rhan gwblhau'r cwrs cyn bo modd rhoi'r tystysgrifau presenoldeb.
  • Sylwer mai un rhan yn unig o'r broses gymeradwyo yw cymryd rhan yn y cwrs, ac ni ddylid cynnig neu dderbyn tystysgrif cwrs fel tystiolaeth o gymeradwyaeth. Mae'n rhaid hefyd i'r sawl sy'n cymryd rhan gyflwyno cais am gymeradwyaeth

Dyddiadau Hyfforddiant 2024 a 2025

Hyfforddiant Cynefino'r Ddeddf Iechyd Meddwl

  • 21 & 22 Ionawr 2025

Hyfforddiant Diweddaru’r Ddeddf Iechyd Meddwl

  • 23 Ionawr 2025

Contact Us/Cysylltu â ni

Trefnu eich sesiwn hyfforddiant nawr

Trefnu sesiwn hyfforddiant

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau'n ymwneud â hyfforddiant

Cysylltwch â ni ar-lein ar gyfer ymholiadau ynghylch hyfforddiant

Pwysig

Nid yw dilyn hyfforddiant y Ddeddf Iechyd Meddwl yn golygu bod cymeradwyaeth wedi'i rhoi. Mae'n rhaid i gais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo.