Ffurflen Trefnu Hyfforddiant.

Page {{ paginatorProps.current }} of {{ paginatorProps.total }} ({{ paginatorProps.percentage }}% completed)
Cyflwyniad

Hyfforddiant Cynefino a Diweddaru i Glinigwyr Cymeradwy a Meddygon Adran 12(2) Cymru Gyfan/Approved Clinician & Section 12(2) Induction & Refresher Training for Wales

  • Cynefino - cwrs dau ddiwrnod £375
  • Diweddaru - cwrs un diwrnod £210

Mae'r hyfforddiant hwn yn gymwys am 1 pwynt DPP fesul awr yn amodol ar gymeradwyaeth gan grŵp cymheiriaid (Seiciatryddion yn unig).

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn falch o gynnig cwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer darpar Glinigwyr Cymeradwy a Meddygon Adran 12(2) yng Nghymru.  Bydd cwblhau'r cwrs cynefino yn cael ei dderbyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel tystiolaeth o hyfforddiant cychwynnol at ddibenion cymeradwyo fel Meddyg Adran 12(2) neu Glinigwr Cymeradwy yn unol â Chyfarwyddiadau Clinigwyr Cymeradwy (Cymru) 2018 Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd gynnig yr hyfforddiant diweddaru un diwrnod ar gyfer Clinigwyr Cymeradwy a Meddygon Adran 12(2) y mae disgwyl iddynt wneud cais am ail-gymeradwyaeth.

Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi dealltwriaeth i gynrychiolwyr am bwerau, swyddogaethau a dyletswyddau Meddygon Adran 12(2), Clinigwyr Cymeradwy ac eraill o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.  Caiff yr hyfforddiant ei osod yng nghyd-destun y fframwaith cyfreithiol, polisi ac arweiniad ehangach, sy'n llywodraethu sefyllfaoedd ac yn effeithio arnynt sy'n gofyn am bresenoldeb neu ymyrraeth gan Glinigwr Cymeradwy.

Gwybodaeth am gyrsiau a chadw lle

Sylwch fod gofyn i gynrychiolwyr sy'n dilyn hyfforddiant gwblhau dau ddiwrnod y cwrs cynefino neu un diwrnod o'r cwrs diweddaru YN LLAWN. Mae'r hyfforddiant yn gorffen am 5pm bob dydd.   

Nid yw dilyn yr hyfforddiant ynddo ei hun yn golygu bod cymeradwyaeth wedi'i rhoi, mae'n rhaid i bawb sy'n cymryd rhan gyflwyno cais am gymeradwyaeth/ail-gymeradwyaeth yn cynnwys dogfennau ategol i'r Tîm Cymeradwyo.

Dylai Clinigwyr Cymeradwy a Meddygon Adran 12(2) ddilyn hyfforddiant diweddaru yn ystod dwy flynedd olaf eu cyfnod cymeradwyo presennol.

Wrth drefnu hyfforddiant diweddaru, nodwch ddyddiad dod i ben eich cymeradwyaeth bresennol.

Llenwch y ffurflen drefnu a ganlyn. Caiff y trefniadau eu cadarnhau dros e-bost. Ni dderbynnir trefnu dros y ffôn ac ni chaiff cynrychiolwyr mo'u derbyn heb ddilyn y broses briodol.

Ffioedd cyrsiau ac amseroedd cyrsiau

Ffi'r cwrs yw £375 am hyfforddiant Cynefino dau ddiwrnod llawn trwy weminar neu £210 am y cwrs diweddaru un diwrnod trwy weminar ac mae'n cynnwys e-bost o gyflwyniadau'r siaradwr.

Amseroedd y cwrs yw dechrau am 09.15am, i orffen am 5pm.

Polisi canslo:

  • Rhoi gwybod am ganslo hyd at 28 diwrnod cyn dyddiad y cwrs - ad-daliad llawn
  • Rhoi gwybod am ganslo rhwng 28 a 14 diwrnod cyn dyddiad y cwrs - ad-daliad gan godi ffi weinyddol o £125
  • Rhoi gwybod am ganslo llai na 14 diwrnod cyn dyddiad y cwrs - dim ad-daliad
  • Os na fydd cynrychiolwyr yn dilyn hyfforddiant heb roi gwybod ymlaen llaw - dim ad-daliad.

Polisi ar gyfer hyfforddwyr a hyfforddiant

Trefnir y cyrsiau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chânt eu cyflwyno gan Neil Allen a'i Gymdeithion trwy weminar Zoom. Mae'r sesiynau'n rhyngweithiol felly mae'n rhaid i gynrychiolwyr sicrhau bod eu microffon â'u camera yn weithredol. Yn unol â'n polisi hyfforddiant ar-lein, mae gofyn i gynrychiolwyr sicrhau bod eu camera wedi'i droi ymlaen bob amser a sicrhau eu bod yn dadactifadu hysbysiadau ar ffonau a dyfeisiau digidol eraill er mwyn osgoi gwrthdynnu'r sylw gan fod angen cyfranogiad llawn trwy gydol pob sesiwn.  Mae'n rhaid i chi fod wedi cael awdurdod seibiant astudio i ddilyn y cwrs.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau'r cwrs, neu ynghylch y broses o geisio cymeradwyaeth fel Clinigwr Cymeradwy neu Feddyg Cymeradwy Adran 12(2) yng Nghymru, cysylltwch â ni ar-lein please cysylltwch â ni ar-lein.

Processing

Mae'r holl gwestiynau sydd wedi'u marcio â * yn orfodol

Manylion Personol
fel y dylai ymddangos ar eich tystysgrif
i gadarnhau eich lle
mae angen dyfais bersonol ar gyfer Zoom
Proffesiwn: *
Maes Gwasanaeth: *
Unrhyw ofynion hygyrchedd?: *
Processing
Tachwedd 2024 Manylion Hyfforddiant

Amseroedd y cwrs yw dechrau am 09.15am, i orffen am 5pm.

  • Y terfyn amser i gadw lle yw 15fed Tachwedd 2024.
  • Y terfyn amser i dalu yw Tachwedd 18fed 2024.
Processing
Manylion Talu

Course Fees/Ffioedd y Cwrs

  • Cwrs cynefino dau ddiwrnod: £375
  • Cwrs diweddaru un diwrnod: £210

Mae'n rhaid i ffi'r cwrs gael ei thalu'n llawn cyn cymryd rhan, naill ai gyda cherbyd debyd neu gerdyn credyd.

Unwaith y byddwch wedi derbyn cadarnhad bod gennych le ar y cwrs, mae'n rhaid i chi dalu. Bydd cyfarwyddiadau talu'n cael eu rhoi pan gewch gadarnhad.

Yna, byddwch yn cael derbynneb trwy e-bost yn dangos bod y taliad llawn wedi'i dderbyn.

Cydsyniad Preifatrwydd

Processing

There appears to be a problem loading the form, please refresh the page.
If the error persists please contact us.