Pa fath o gymeradwyaeth sydd ei hangen?

Cymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer Clinigwyr wedi'u Cymeradwyo

Ydych chi'n ceisio cymeradwyaeth gychwynnol fel Clinigwr Cymeradwy?

Effaith a Phwerau Cymeradwyaeth Clinigwr Cymeradwy:

Gall Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig hefyd weithredu fel Meddyg ardystiedig gyda phrofiad arbennig o ran diagnosio a thrin anhwylder iechyd meddwl o dan Adran 12(2) Deddf Iechyd Meddwl 1983 yng Nghymru ac yn Lloegr.

Ni ellir defnyddio statws Clinigwr Cymeradwy a roddwyd yng Nghymru yn Lloegr.  Os byddwch yn awyddus i ddefnyddio pwerau Clinigwr Cymeradwy yn Lloegr, mae'n rhaid i chi wneud cais ar wahân am hyn gan sicrhau cymeradwyaeth fel Clinigwr Cymeradwy yn Lloegr.

Gellir gweithredu fel Clinigwr Cyfrifol o fewn ystyr Deddf Iechyd Meddwl 1983 yng Nghymru, pan ddyrennir hynny gan awdurdod cadw (h.y. cyflogwr).

Pwerau Clinigwr Cyfrifol:

  • Yr arweinydd clinigol sy'n atebol am glaf i gael ei gadw neu ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO) neu warcheidiaeth;
  • Rhoi absenoldeb adran 17;
  • Adolygu'r angen i gadw, am CTO neu warcheidiaeth;
  • Rhyddhau o'i gadw, CTO neu warcheidiaeth;
  • Penderfynu p'un ai i wahardd rhyddhau'r Perthynas Agosaf o'i gadw neu CTO;
  • Adolygu ac adnewyddu cadw, ymestyn CTO neu warcheidiaeth;
  • Argymell trosglwyddo i warcheidiaeth;
  • Creu Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (gydag AMHP);
  • Adalw o CTO;
  • Diddymu'r CTO (gydag AMHP);
  • Adrodd wrth y Gweinidog Cyfiawnder ar gleifion cyfyngedig.

Pwerau Clinigwr Cymeradwy (pan nad yw hyn yn cyfeirio at y Clinigwr Cyfrifol):

  • Y Clinigwr Cymeradwy (neu'r meddyg) sy'n gyfrifol am driniaeth claf anffurfiol yw'r un sydd â'r pŵer i atal claf rhag gadael yr ysbyty o dan adran 5 (a 5(2));
  • Gellir cael awdurdod o dan Adran 24 gan y Perthynas Agosaf i ymweld â'r claf ac i'w archwilio'n breifat;
  • Gellir cael awdurdod gan y Tribiwnlys i ymweld ac archwilio claf yn breifat i roi adroddiad;
  • Gellir cael awdurdod gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymweld â'r claf ac i'w archwilio'n breifat;
  • Gellir rhoi adroddiadau i'r Llys mewn rhai achosion Rhan III Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Gwneud cais am Gymeradwyaeth Clinigwr Cymeradwy 

Cymeradwyaeth Adran 12(2) gychwynnol

A ydych yn ceisio cymeradwyaeth Adran 12(2) gychwynnol ?

Effaith a Phwerau Cymeradwyaeth Adran 12(2):

  • Gall Meddyg Adran 12(2) sy'n gymeradwy o fewn ystyr Deddf Iechyd Meddwl 1983 ddefnyddio'r pwerau hyn yng Nghymru ac yn Lloegr.
  • Gall ddarparu argymhellion meddygol statudol i dderbyn unigolion ag anhwylderau iechyd meddwl i'r ysbyty dan orfod neu iddynt fod yn destun gwarcheidiaeth.
  • Gall roi tystiolaeth feddygol i gael ei hystyried gan lys cyn gorchymyn derbyn claf i ysbyty neu iddynt fod yn destun gwarcheidiaeth.
  • Gall roi adroddiadau i gael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i orchymyn trosglwyddo carcharorion ac unigolion penodol eraill i'r ysbyty neu iddynt fod yn destun gwarcheidiaeth.
  • Ni all Meddyg Adran 12(2) weithredu fel Clinigwr Cymeradwy neu fel Clinigwr Cyfrifol

Gwneud cais am Gymeradwyaeth Adran 12(2)