Gwneud cais am Gymeradwyaeth Adran 12(2)

Gwneud cais am Gymeradwyaeth Gychwynnol

Dylid adolygu'r gofynion cymhwyster i wneud cais o dan Feini Prawf A neu Feini Prawf B fel y'i hamlinellir yn Nogfen Proses a Meini Prawf Adran 12(2) Cymru Gyfan S12 Dogfen Proses a Meini Prawf.

Pan fyddwch wedi coladu dogfennau eich cais wedi'u cwblhau, dylid cyflwyno'r rhain i'r Tîm Cymeradwyo. Gallwch naill ai eu hwuchlwytho i'n porth diogel ar y wefan hon neu gallwch ddewis e-bostio'r dogfennau'n uniongyrchol i'r Tîm Cymeradwyo. Mae'r Tîm Cymeradwyo yn derbyn lefel uchel o ohebiaeth. Felly, byddai'r tîm yn ddiolchgar iawn pe baech cystal â chyflwyno eich dogfennau fel atodiadau ar wahân mewn un e-bost cyffredinol lle bynnag y bo'n bosibl cysylltwch â'r Tîm Cymeradwyo.

Yn anffodus, ni all Panel Cymeradwyo Cymru Gyfan asesu ceisiadau anghyflawn i'w cymeradwyo. I osgoi oedi gyda'ch cais, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r holl ddogfennaeth fel y'i rhestrir yn Nogfen Proses a Meini Prawf Adran 12(2) Cymru Gyfan.

Gwneud cais am Ail-gymeradwyaeth bob pum mlynedd

Rydym yn gofyn i chi adolygu'r gofynion am ddogfennau ail-gymeradwyo fel y'u nodir yn y Ddogfen Proses a Chriterau Adran 12(2) Cymru Gyfan, ac i ofyn i'r Tîm Cymeradwyo anfon y dogfennau cais atoch er mwyn i chi gydlynu eich cais. Pan fyddwch wedi casglu eich cais llawn a heb wallau, ac wedi cynnwys tystiolaeth sy'n ofynnol o dan Feini Prawf C yng nghyflwyniad y ddogfen broses, gallwch eu llwytho i'n porth diogel ar y wefan hon neu e-bostio'r dogfennau yn uniongyrchol at y Tîm Cymeradwyo. Mae'r Tîm Cymeradwyo yn derbyn nifer uchel o gyfathrebiadau. Felly, byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe byddech yn cyflwyno eich dogfennau fel atodiadau ar wahân mewn e-bost cyffredinol unol â phosibl. Dylid cyflwyno ceisiadau am ail-gymeradwyo saith wythnos cyn y dyddiad dod i ben presennol.

Yn anffodus, ni all Panel Cymeradwyo Cymru Gyfan asesu ceisiadau anghyflawn ar gyfer ail-gymeradwyaeth Adran 12(2). I osgoi oedi gyda'ch cais, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r holl ddogfennaeth fel y'i rhestrir yn Nogfen Proses a Meini Prawf Adran 12(2) Cymru Gyfan.