Cymeradwyo Clinigwr wedi'r Gymeradwyo

Gwneud cais am Gymeradwyaeth fel Clinigwr Cymeradwy 

I gael manylion llawn am ddangosyddion cymhwyster a pharodrwydd i wneud cais, dylid adolygu'r gofynion a geir yn ac adolygu'r gofynion a gynhwysir yn y Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Gymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy. Mae'r naw cymhwysedd allweddol i Glinigwyr Cymeradwy yng Nghymru a'r statud sy'n llywodraethu Cymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy ar gael yn Atodiad A.

I weld y rhestr gyflawn o ddogfennaeth i'w chyflwyno, dylid adolygu dull penodol eich cais a chyfeirio at y tabl dogfennaeth a geir yn nogfen Trefniadau Gweithdrefnol Cymeradwyo ac Ailgymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy yng Nghymru document. Mae'n rhaid hefyd i ymgeiswyr ymgymryd â chwrs cynefino achrededig Clinigwyr Cymeradwy'r Ddeddf Iechyd Meddwl ac i'w gwblhau. Mae Tystysgrifau Cynefino Clinigwyr Cymeradwy yn ddilys am ddwy flynedd ac mae'n rhaid iddynt barhau i fod yn ddilys wrth i Banel Cymeradwyo Cymru Gyfan asesu'r holl geisiadau.

Gwneud Cais i Ail-gymeradwyo Clinigwyr Cymeradwy bob pum mlynedd

Mae'n rhaid i Glinigwyr Cymeradwy y mae hi'n bryd i'w statws gael eu hadnewyddu fynychu a chwblhau cwrs diweddaru sydd wedi'i achredu'n genedlaethol i Glinigwyr Cymeradwy'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Dylai'r cwrs gael ei gwblhau'n foddhaol heb fod yn fwy na dwy flynedd cyn y dyddiad dod i ben presennol.  Ar ôl cwblhau'r cwrs diweddaru, mae'n rhaid gwneud cais i geisio cael ail-gymeradwyaeth bob pum mlynedd.  Dylai ceisiadau wedi'u cwblhau ar gyfer ail-gymeradwyaeth gael eu cyflwyno saith wythnos cyn y dyddiad dod i ben.  I weld y rhestr gyflawn o ddogfennaeth i'w chyflwyno, dylid cyfeirio at y tabl dogfennaeth a geir yn nogfen Trefniadau Gweithdrefnol Clinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan Trefniadau Gweithdrefnol Clinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan.

I ymgeiswyr am y tro cyntaf a chlinigwyr sy'n ceisio ail-gymeradwyaeth bob pum mlynedd, mae rhestr lawn o ddogfennaeth i'w chyflwyno ar gael yn nogfen Trefniadau Gweithdrefnol Clinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan.

Cwblhewch os gwelwch yn dda ffurflen gyswllt ymholiad i ofyn i'r Tîm Cymeradwyo anfon dogfennau cais atoch chi. Dylech ddatgan ar y ffurflen os ydych yn ceisio cymeradwyaeth gychwynnol neu ail-gymeradwyaeth.

Pan fyddwch wedi coladu dogfennau eich cais wedi'u cwblhau, dylid cyflwyno'r rhain i'r Tîm Cymeradwyo.  Gallwch naill ai eu llwytho i fyny i'n porth diogel ar y wefan hon eu hwuchlwytho i'n porth diogel ar y wefan hon neu gallwch ddewis e-bostio'r dogfennau'n uniongyrchol i'r Tîm Cymeradwyo. Mae'r Tîm Cymeradwyo yn derbyn lefel uchel o ohebiaeth. Felly, byddai'r tîm yn ddiolchgar iawn pe baech cystal â chyflwyno eich dogfennau fel atodiadau ar wahân mewn un e-bost cyffredinol lle bynnag y bo'n bosibl. 

Yn anffodus, ni all Panel Cymeradwyo Cymru Gyfan asesu ceisiadau anghyflawn. I osgoi oedi gyda'ch cais, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r holl ddogfennaeth fel y'i rhestrir yn Nogfen Trefniadau Gweithdrefnol i Glinigwyr Cymeradwy Cymru Gyfan. Sylwer nad oes gan y Panel mo'r awdurdod i roi estyniadau.

Ffurflen Ddiweddaru Blynyddol

Mae gofyn i glinigwyr sydd wedi derbyn statws Clinigwr Cymeradwyo gwblhau ffurflen ddiweddaru blynyddol ar ben-blwydd y dyddiad cymeradwyo.

llenwi ffurflen ddiweddaru flynyddol