Croeso i wefan Clinigwyr Cymeradwy a Meddygon Adran 12(2) Cymru Gyfan.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r Corff Cymeradwyo sy'n gyfrifol am gymeradwyo, ail-gymeradwyo neu derfynu cymeradwyaeth i Glinigwyr Cymeradwy a Meddygon Adran 12(2) sy'n awyddus i gael eu cymeradwyo o fewn ystyr Deddf Iechyd Meddwl (1983) fel y'i diwygiwyd (2007).

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymarfer y swyddogaeth hon ar ran yr holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru gan ddefnyddio awdurdod a ddirprwyir gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, trwy Gyfarwyddiadau a wnaed o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Mae clinigwr cymeradwy'n weithiwr iechyd meddwl proffesiynol a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru i weithredu at ddiben Deddf Iechyd Meddwl 1983 ("Deddf 1983"). Gall rhai penderfyniadau o dan Ddeddf 1983 gael eu gwneud gan bobl sy'n Glinigwyr Cymeradwy neu Feddygon Adran 12(2) yn unig.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Byddwn yn ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.

Gwneud cais am Gymeradwyaeth

A ydych chi'n awyddus i wneud cais am gymeradwyaeth gychwynnol fel Clinigwr Cymeradwy neu Gymeradwyaeth gychwynnol fel Meddyg Adran 12(2)?

Sut i wneud cais

Pa fath o gymeradwyaeth sy'n iawn i mi?

Os nad ydych yn siŵr, darllenwch yr arweiniad hwn:

Pa fath o gymeradwyaeth ddylwn i wneud cais amdano?

Ein Pwrpas

Gwella iechyd a darparu gofal rhagorol

Ein Gwerthoedd

Rhoi cleifion yn gyntaf

Gweithio gyda'n gilydd

Gwerthfawrogi a pharchu ein gilydd

Dysgu ac arloesi

Cyfathrebu’n agored a gonest

Rôl Panel Cymeradwyo Cymru Gyfan

Mae'r Panel yn sicrhau bod ymgeiswyr yn bodloni gofynion cymeradwyaeth i Glinigwyr Cymeradwy a/neu gymeradwyaeth Meddygon Adran 12(2) o dan Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd 2007).

Mae Panel Cymeradwyo Cymru Gyfan yn cynnwys Seiciatryddion Ymgynghorol, Meddygon Teulu, Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig, Nyrsys Cofrestredig a Seicolegwyr Cofrestredig sy'n ystyried ceisiadau am gymeradwyaeth ac ail-gymeradwyaeth Adran 12(2) fel y'i nodir yn Nogfen Proses a Meini Prawf Adran 12(2) Cymru Gyfan neu gymeradwyaeth i Glinigwyr Cymeradwy, fel y'i nodir yng Nghyfarwyddiadau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Clinigwyr Cymeradwy) (Cymru) 2018.

Cylch Gwaith Panel Cymeradwyo Cymru Gyfan

Bydd y Panel yn derbyn ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth gan weithwyr proffesiynol cymwys cofrestredig y mae eu maes arfer clinigol yng Nghymru.

Mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol sy'n ceisio cymeradwyaeth i weithio yn Lloegr wneud cais i un o'r pedwar Panel rhanbarthol yn Lloegr.